Cwestiynau Cyffredin
Ateb eich cwestiynau
O amgylch y DU - Cymru
Mae e-sgiliau DU yn ymroddedig i weithio mewn partneriaeth gyda chyflogwyr a rhanddeiliaid allweddol yng Nghymru i ymdrin â’r materion Technoleg Gwybodaeth, Telathrebu a Chanolfannau Cyswllt a fydd â’r effaith mwyaf sylweddol ar lwyddiant economi Cymru.
Fforwm Cyflogwyr Cymru
Y fforwm yw dull e-skills DU ar gyfer cysylltu cyflogwyr gyda llywodraeth yng Nghymru. Ei ddiben yw:
- uno cyflogwyr, addysgwyr a llywodraeth ar agenda sgiliau cyffredin dan arweiniad cyflogwyr ar gyfer gweithredu yng Nghymru
- dylanwadu ar asiantaethau ariannu’r Llywodraeth ar faterion cysylltiedig â sgiliau
- cynrychioli anghenion addysgol ac anghenion datblygu sgiliau cyflogwyr
Ar hyn o bryd mae'r fforwm yn cynnwys 12 cynrychiolydd cwmni o feysydd technoleg gwybodaeth, telathrebu a rhai sydd â diddordeb penodol mewn sgiliau defnyddwyr TG a gall gynrychioli ehangder diddordeb yn ein sector - sef Alcatel-Lucent, Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd (yn cynrychioli GIG Cymru), BT, Cardiff Financial Partnership, Draig Technology, EADS DS, EDS, Fujitsu, General Dynamics, Microsoft, Mitel a Tata.
Gwybodaeth gefndir
Caiff ein gwaith yng Nghymru ei lywio gan Gynllun Gweithredu’r Cytundeb Sgiliau Sector ar gyfer Technoleg Gwybodaeth i Gymru a luniwyd ac a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 05 i uno cyflogwyr, addysgwyr a llywodraeth mewn agenda ar y cyd ar gyfer newid. Mae’r cynllun yn seiliedig ar ganfyddiadau adroddiad ymchwil pwysig a gynhaliwyd gyda Gartner, IT Insights: Skills Gap Analysis - Wales.
Cynllun Iaith Gymraeg
Mae Cynllun Iaith Gymraeg gan e-sgiliau a gweithiwn i gefnogi'r iaith Gymraeg yng Nghymru, o fewn ein modd a'n cylch gorchwyl. Medrwch lawrlwytho'r cynllun yn y Gymraeg drwy'r ddolen ddilynol:
Cynllun Iaith Gymraeg e-sgiliau DU (252kb)
Fodd bynnag hysbyswch ni os gwelwch yn dda os hoffech gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a byddwn yn ymdrechu i ddiwallu eich angen o fewn 24 awr.
cynrychiolydd e-sgiliau DU yng Nghymru
Peter Sishton – Rheolwr Cymru
peter.sishton@e-skills.com
Medrir cyrchu'r dudalen hon yn unoingyrchol yn
www.e-skills.com/cymru
Addaswyd ddiwethaf: 04 Sep 2008
Insights 2008
Rydym newydd gynnal ymchwil helaeth i roi diweddariad ar ddata IT Insights 2004 – ewch i IT and Telecoms Insights 2008.
Strategaeth 2008
Rydym yn awr yn gweithio gyda chyflogwyr ac eraill i ddatblygu cynlluniau strategol ar gyfer pedair cenedl y Deyrnas Unedig, ar gyfer 2008 ymlaen.
Cyfrannwch ar-lein os gwelwch yn dda.
newyddion e-sgiliau DU
Cyflogwyr - Gwahoddiad i gymryd rhan wrth ddiwygio TGAU TGCh
e-skills DU gynnig cyfle i chi gymryd rhan weithgar yn y broses o ailddatblygu TGAU TGCh.
Ymgynghoriad NOS
Bydd TATA Consultancy Services yn cynnal ymgynghoriad i gyflogwyr yng Nghymru ar 24 Medi rhwng 10.00am a 12.30pm. Byddem yn ddiolchgar pe hysbysech Peter Sishton os hoffech fynychu.
Genethod CC4G yn ymweld â Chanolfan Data BT ym Mae Caerdydd
Roedd aelodau Clybiau Cyfrifiadur i Enethod (CC4G) o Ysgol Uwchradd yr Esgob Hedley, Merthyr Tudful, ymysg y cyntaf i ymweld ag Arddangosfa TG y Ganolfan Data.
Dirprwy Weinidog Sgiliau yn ymweld â chlwb CC4G yn Ysgol Gynradd High Cross, Casnewydd
Cyfarfu John Griffiths â 15 o’r genethod sy’n manteisio o gynllun gwobrwyol Clybiau Cyfrifiadur i Enethod e-skills DU.
Canllaw TG Busnes – gwasanaeth rhad ac am ddim i helpu busnesau llai i gynyddu eu cynhyrchiant a’u gallu cystadleuol drwy dechnoleg – lawrlwythwch ddalen ffeithiau Cymru (pdf)
Diweddariadau Cymru
Logiwch i mewn/Cofrestru i danysgrifio ar gyfer ein diweddariadau Cymru.

