Cwestiynau Cyffredin
Ateb eich cwestiynau
O amgylch y DU - Cymru
Ymgynghoriad NOS
Mae e-skills DU yn dal i wahodd adborth ar y diwygiadau a gynigiwyd i’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NUS) yn cyfeirio at Ddefnyddwyr Technoleg Gwybodaeth. Mae’r diwygiadau hyn yn seiliedig ar y mewnbwn gwerthfawr tu hwnt a dderbyniwyd hyd yma drwy’r wefan ymgynghori a digwyddiadau ymgynghori dechreuol fis Tachwedd diwethaf.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn hollbwysig gan fod y Safonau hyn yn diffinio lefelau'r sgiliau TG sy’n berthnasol ar gyfer y gweithlu a hefyd y rhai’n chwilio am gyflogaeth. Maent yn sail i fwyafrif cymwysterau defnyddwyr TG a hyfforddiant Defnyddwyr TG a ariannir gan y llywodraeth. Mae eu gwneud yn ddigon dealladwy a sicrhau eu bod yn mynd i’r afael â’r sgiliau cywir yn golygu gwell sgiliau TG i bawb a gwell gweithlu i fusnesau.
Bydd TATA Consultancy Services yn cynnal ymgynghoriad i gyflogwyr yng Nghymru ar 24 Medi rhwng 10.00am a 12.30pm. Amgaeir map ynghyd â’r agenda. Byddem yn ddiolchgar pe hysbysech Peter Sishton os hoffech fynychu.
Medrir gweld drafft llawn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol diwygiedig ar-lein yn http://nos2008.e-skills.com hyd 26 Medi 2008.
Os na fedrwch fod yn bresennol eich hunan medrwch gyfrannu mewn dwy ffordd:
- Drwy ymgynghoriad ar-lein yn www.e-skills.com/NOSsurvey. Bydd yr ymgynghoriad yn cymryd tua 30 munud a medrwch roi sylwadau ar gynifer neu cyn lleied o’r Safonau ag y dymunwch.
- Rhoi sylwadau’n uniongyrchol ar fanylion y Safonau yn http://nos2008.e-skills.com
Gyda’r safonau cywir medrwn helpu i sicrhau fod gan bobl y sgiliau TG cywir i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd y mae technoleg yn ei gynnig ar gyfer eu gwaith a’u hamdden. Cymerwch ran os gwelwch yn dda.
Addaswyd ddiwethaf: 29 Aug 2008

