e-skills UK - The Sector Skills Council for IT & Telecoms
Rydych chi yma:

O amgylch y DU - Cymru

Cyflogwyr - Gwahoddiad i gymryd rhan wrth ddiwygio TGAU TGCh

Yn dilyn gwaith diweddar ar yr adolygiad o’r cwricwlwm uwchradd yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon, mae’n dda iawn gennym eich hysbysu i ni gael cyfle i adolygu a diwygio’r cymhwyster TGAU TGCh. Felly, hoffai e-skills DU gynnig cyfle i chi gymryd rhan weithgar yn y broses o ailddatblygu TGAU TGCh.

Rydym yn trefnu tri dull ar gyfer eich mewnbwn; byddai croeso mawr i chi gymryd rhan yn unrhyw un neu’r cyfan o’r rhain:

  1. Ymgynghoriad ar-lein - (dyddiad cau 12 Medi 2008 tua 15-30 munud i’w lenwi). Bydd hyn yn eich galluogi i rannu eich barn ar y cynigion. Bydd e-skills DU yn darparu dadansoddiad o fewnbwn cyflogwyr i’r QCA erbyn diwedd mis Medi.
  2. Gweithdy ffocws cyflogydd - (Dydd Llun, 15 Medi, Prynhawn - Llundain, lleoliad i’w gadarnhau). Diben y digwyddiad hwn fydd i gyflogwyr fanylu i’r QCA*, sut y medrai cyflogwyr fod yn cyfrannu’n flaengar at ddatblygu cymhwyster fydd yn ysbrydoli pobl ifanc.
  3. Fforwm drafod cyflogwyr gyda Chyrff Dyfarnu* - (Dyddiad - Hydref/I’w gadarnhau, Lleoliad - Llundain/i’w gadarnhau) unwaith y bydd yr ymgynghoriad ar-lein wedi’i gwblhau, caiff set o reolau ei chyhoeddi a’i defnyddio gan Gyrff Dyfarnu i ddatblygu manylebion TGAU TGCh. Byddem yn eich croesawu i drafodaeth agored, rhwng cyflogwyr a Chyrff Dyfarnu, ar sut y medrid hwyluso datblygu ar y cyd. Bydd hwn yn gam sylweddol wrth greu cymhwyster y mae cyflogwyr yn ei ystyried yn un perthnasol, pwysig a deniadol i bobl ifanc.

Mae hwn yn gyfle pwysig i gyflogwyr ddylanwadu ar y cwricwlwm TGCh mewn ysgolion a gobeithiwn yn fawr iawn y bydd modd i chi gyfrannu eich sylwadau. Byddem yn ddiolchgar pe medrech ein hysbysu os medrwch gymryd rhan drwy anfon neges e-bost at Sarah Snowdon sy’n arwain gwaith diwygio TGAU o fewn e-skills DU.

Os dewiswch gymryd rhan yn yr 'Ymgynghoriad Ar-lein', amgaeaf y dogfennau ategol a’r ddolen i’r ymgynghoriad ar-lein yn: www.e-skills.com/ictgcse

Os dewiswch gymryd rhan yn y 'Gweithdy ffocws cyflogwyr' a/neu’r 'Fforwm drafod cyflogwyr' e-bostir manylion pellach atoch cyn y digwyddiadau dan sylw.

Diolch eto i chi am eich diddordeb a’ch cefnogaeth.

Troednodyn

* QCA yw rheoleiddwyr cwricwlwm a chymwysterau o fewn Lloegr

* Mae Cyrff Dyfarnu yn dylunio manyleb cymhwyster ac yn rhoi achrediad i’r cymhwyster

 

Addaswyd ddiwethaf: 04 Sep 2008