Hybu sgiliau Technoleg Gwybodaeth ar draws y genedl
Rydym yn gweithio gyda chyflogwyr a rhanddeiliaid allweddol yng Nghymru i fynd i’r afael â’r materion sgiliau Technoleg Gwybodaeth (TG) a Thelathrebu a gaiff yr effaith fwyaf sylweddol ar economi’r wlad.
I wneud yn sicr fod gan Gymru y sgiliau technoleg y mae eu hangen i gystadlu’n rhyngwladol, rydym wedi paratoi Cynllun Strategol 4-blynedd ar gyfer Cymru (2010-2014) PDF 1MB a rydym yn gweithio i gyflawni ei amcanion.
Cafodd ein Cynllun Gweithredu ar gyfer Cymru, sy’n trafod anghenion sgiliau ac yn cydlynu gweithgaredd draws y wlad, ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Phanel Rhanddeiliaid Cymru.
Yr hyn a wnawn yng Nghymru
Rydym yn ysbrydoli talent y dyfodol drwy:
Rydym yn cefnogi gweithwyr proffesiynol TG drwy:
- ymchwilio diddordeb mewn Academi Sgiliau i Gymru
- gweithio gyda’r Gynghrair Meddalwedd yng Nghymru i gefnogi’r sector
- galluogi achrediad ffurfiol ar gyfer hyfforddiant cyflogwyr.
Rydym hefyd yn gweithio i godi ymwybyddiaeth o werth TG i sefydliadau ac unigolion, yn ogystal â hyrwyddo dulliau a gynlluniwyd gan gyflogwyr sy’n helpu sefydliadau i ymelwa ar dechnoleg ar gyfer busnes. Rydym hefyd yn cynnig mynediad i wybodaeth cryf a dibynadwy ar y farchnad lafur ar gyfer Cymru.
Back to top